Cyflwynwyd yr ymateb hwn i ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i  gymorth iechyd meddwl mewn addysg uwch

This response was submitted to the Children, Young People and Education Committee inquiry into Mental Health support in Higher Education

MHHE 21

Ymateb gan: Archwilio Cymru

Response from: Audit Wales

Nodwch eich barn mewn perthynas â chylch gorchwyl yr ymchwiliad. | Record your views against the inquiry’s terms of reference.

Cyfeiriwn y Pwyllgor at ein hadroddiad Ddeddf Well-being of Future Generations (Cymru) 2015, o'n hadroddiad cylchred cyntaf (2019) – 'Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol: Cynllun ar gyfer lles ac iechyd mewn addyg uwch - CCAUC

Gall hyn ddarparu rhywfaint o gyd-destun cefndir defnyddiol, a helpu'r Pwyllgor i nodi ac archwilio materion penodol o fewn cwmpas yr ymchwiliad presennol i gefnogaeth Iechyd Meddwl mewn Addysg Uwch.

Cafodd y gwaith y cyfeirir ato ei wneud fel rhan o'n rhaglen ehangach o arholiadau datblygu cynaliadwy o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (yn y cylch adrodd cyntaf). Roedd ein hadroddiad yn nodi canfyddiadau o'n harchwiliad o ddatblygiad cynllun ar gyfer lles ac iechyd mewn addysg uwch, cam yr oedd CCAUC yn ei gymryd i gyflawni ei amcanion lles.

Buom yn archwilio i ba raddau roedd CCAUC yn gweithredu yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy wrth ddatblygu cynllun ar gyfer lles ac iechyd mewn addysg uwch. Roedd CCAUC yn awyddus i ni archwilio maes datblygu polisi a oedd yn ei ddyddiau cynnar oherwydd mai bwriad CCAUC oedd defnyddio'r dysgu o'r archwiliad i lywio ei ddatblygiad polisi a'i weithredu.

Nodwyd nad oedd y Datganiad Polisi, ar y cam hwnnw, yn cael ei gefnogi gan gynllunio manwl. Nodwyd bod lle i gynyddu ymwybyddiaeth y datganiad Polisi a'r cynllun gweithredu ar gyfer lles ac iechyd, gan gynnwys iechyd meddwl, er ein bod yn cydnabodei fod yn ddyddiau cynnar ar gyfer y gwaith hwn. Yn Arddangosyn 2 – rydym yn nodi ymateb CCAUC i'n canfyddiadau a'n camau cysylltiedig allweddol.

O dan 'Cydweithio' y camau oedd 'Hyrwyddo a chynnwys partneriaid ymhellach yn y Datganiad Polisi a chynlluniau gweithredu iechyd meddwl, er mwyn sicrhau gwir gyd-greu, cyfrifoldebau clir a chyd-berchenogaeth'.